Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 11 Rhagfyr 2017
Amser:
14.01 -
15.55
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4357
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Neil Hamilton AC Vikki Howells AC Rhianon Passmore AC Adam Price AC Lee Waters AC |
Tystion: |
Mark Child, Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol y Bae Gorllewinol Rachel Evans, Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol y Bae Gorllewinol |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Huw Vaughan Thomas - Archwilydd Cyffredinol Cymru Matthew Mortlock |
Staff y Pwyllgor: |
Huw Vaughan Thomas Matthew Mortlock Fay Bowen (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mohammad Asghar AC. Ni chafwyd dirprwy ar ei ran.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
· O ran llifogydd arfordirol, cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am ddiweddariad ar ei hamserlen ar gyfer y Rhaglen Rheoli Perygl Arfordirol a rhoi gwybod i Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig am y pecyn cymorth arfordirol i gyd-fynd â'r Strategaeth newydd ar gyfer y Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol o safbwynt ad-alinio.
· O ran yr ohebiaeth rhwng y Pwyllgor a Llywodraeth Cymru ar arferion a gweithdrefnau gwaith, teimlai'r Aelodau fod yr ymateb yn gadarnhaol ond y byddai angen monitro agos i sicrhau bod ymatebion Llywodraeth Cymru i argymhellion y Pwyllgor yn rhoi esboniadau llawn yn gyson ynghylch pam y cafodd argymhelliad ei dderbyn ai peidio. Cytunodd y Cadeirydd i ymateb i'r Ysgrifennydd Parhaol gyda barn y Pwyllgor.
3.1 Derbyniodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cynghorydd Mark Child, Cadeirydd, Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Western Bay a Rachel Evans, Arweinydd Cefnogi Pobl, Awdurdod Cydlynu Dinas a Sir Abertawe fel rhan o'i ymchwiliad i Raglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
6.1 Nododd yr Aelodau y diweddariad ysgrifenedig a chytunwyd i ymgymryd ag ymchwiliad yn ystod tymor yr haf 2018.
7.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio ar Adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a gyhoeddwyd ar 30 Tachwedd. Roedd yr Aelodau eisoes wedi cytuno i ymgymryd ag ymchwiliad i Gaffael Cyhoeddus yn dilyn cyhoeddi ei adroddiad cynharach ar Gaffael Cyhoeddus - Adolygiad o'r Cefndir ar 23 Hydref.
7.2 Nododd yr aelodau y bydd sesiynau tystiolaeth yn cael eu trefnu ar gyfer tymor y gwanwyn 2018.
8.1 Rhoddodd yr Archwilydd Cyffredinol ddiweddariad llafar ar ei bapur trafod a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2017 ac a ystyriwyd gan y Pwyllgor yn ystod ei gyfarfod ar 6 Mawrth 2017.
8.2 Cytunodd yr Aelodau y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol yn ceisio diweddariad ar y cynnydd a wnaed o safbwynt y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a chwmnïau hyd braich.